Diflaniad Madeleine McCann: Angen 'cadw elfen o sinigiaeth’ medd cyn-dditectif

23/04/2022

Diflaniad Madeleine McCann: Angen 'cadw elfen o sinigiaeth’ medd cyn-dditectif

Mae cyn Brif Uwch-arolygydd gyda Heddlu’r Met yn Llundain, wedi dweud wrth Newyddion S4C bod angen cadw "elfen o sinigiaeth" wedi i'r awdurdodau ym Mhortiwgal enwi dyn dan amheuaeth yn yr ymchwiliad i ddiflaniad Madeleine McCann. 

Nid yw’r dyn sydd wedi’i enwi gan yr awdurdodau fel Christian B wedi ei gyhuddo yn swyddogol hyd yma.

Mae Christian B yn y carchar yn Yr Almaen ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio dynes 72 oed yn 2005 yn yr un dref ag yr aeth Madeleine McCann ar goll. 

Roedd Madeleine McCann yn dair oed ac ar wyliau gyda'i theulu pan ddiflannodd hi o Praia da Luz ym mis Mai 2007.

Mae Christian B wedi gwadu fod ganddo unrhyw ran yn niflaniad Madeleine Mc Cann.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd y cyn-dditectif Dai Davies, fu'n ymchwilio i’r diflaniad ar ran papur newydd y Daily Mirror ar y pryd: “Mae’n rhaid imi ddweud ar ôl 15 mlynedd, dwi’n tretio pob dim efo degree of cynicism.

“Dwi’n meddwl mai tacteg ydi hyn gan y Portuguese authorities achos ar ôl 15 mlynedd, os nad ydyn nhw wedi chargio rhywun, mae’r case yn cael ei dropio, fel dwi’n dallt.

“Wrth gwrs, dwi’n meddwl mai’r boi yma, Christian B, fel maen nhw yn ei alw fo yn yr Almaen, mae fo ydi’r suspect gora’ o’r dros 65 o suspects maen nhw wedi ei narowio fo lawr.

“Pam dwi yn meddwl huna? Wel, edrach ar ei previous convictions o a’r ffaith bod o ‘di attackio merched – ac mae o’n bedoffeil – ac mae yna ddau achos yn ei erbyn sy’n dal i fod o flaen y cwrt yn yr Almaen. Ac mae o wedi allegedly cyfaddef i ffrind mai fo naeth.

“So edrych ar y scene. Oedd o’n byw yn ymyl y lle; mae’r ffôn yn dweud ei fod yn ymyl y fflat neu’r apartment ar y diwrnod naeth hi fynd ac mae ganddo fo previous convictions o ddwyn ac entro apartments lle mae visitors.

“So pan ydach chi yn meddwl huna i gyd, fel ditectif yn fy marn i, fo ydi’r suspect gorau ydan ni wedi dod.”

Fe fydd hi'n 15 mlynedd ym mis Mai ers i Madeleine ddiflannu, ac mae'r gyfraith ym Mhortiwgal yn datgan na ellir cyhuddo rhywun yn swyddogol ar ôl y dyddiad yma.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.