Gwestai hunan ynysu'r DU wedi costio £400m i'r trethdalwr
Mae'r cynllun hunan ynysu mewn gwestai wedi costio bron i £400m i’r trethdalwyr yn ôl y corff gwarchod Watchdog.
Mae’r cynllun wedi bod yn gyfrifol am ynysu 214,000 o bobl oedd yn teithio i’r Deyrnas Unedig o wledydd oedd ar y rhestr goch rhwng Ebrill a Rhagfyr 2021.
Roedd yn ofynnol i unigolion hunan ynysu am 11 noson yn y gwesty, cyn gallu cael mynediad i’r DU.
Roedd y llywodraeth wedi disgwyl y byddai cost y cynllun yn cael ei ariannu gan y preswylwyr, ond mae wedi dod i’r amlwg bod y trethdalwr wedi talu am fwy na hanner cyfanswm y gost.
Darllenwch y sori'n llawn yma.