Cynlluniau i droi hen siop ddillad yn fflatiau ar stryd fawr Bangor

Cynlluniau i droi hen siop ddillad yn fflatiau ar stryd fawr Bangor
Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid cynlluniau i droi hen siop ddillad ar stryd fawr Bangor yn fflatiau.
Cafodd drysau siop Peacocks yng nghanol Bangor eu cau dros flwyddyn a hanner yn ôl.
Mae'r cyngor bellach wedi cymeradwyo cynlluniau datblygwyr i droi'r adeilad yn safle ar gyfer 24 o fflatiau newydd a gofod aml-bwrpas ar y llawr isaf ar gyfer busnesau.
Cymysg oedd yr ymateb ar strydoedd Bangor, gyda rhai yn honni y gallai'r cynlluniau gynnig atebion i'r argyfwng tai presennol.
"Os dydyn nhw ddim yn mynd i werthu fo, neu ei osod o, waeth iddyn nhw roi fflatiau i bobl fyw ynddyn nhw," meddai un cwpl wrth Newyddion S4C.
Ychwanegodd un arall a oedd yn siopa, y gallai'r safle "wneud yn amazing" fel adeilad llety.
"Mae na bobl yn ddigartref, ac maen nhw'n gorfod mynd i hostels a stwff. So syniad da di o."
Ond doedd y cynllun ddim wrth fodd eraill.
"Os byse chi'n gofyn i fi os dwi eisiau fflat ar y stryd fawr, byswn i ddim yn cytuno gyda hynny," meddai un perchennog busnes.
"Fel busnes bychan, ni angen y siopau yma er mwyn i bobl dod i'r dre."
Dywedodd dyn busnes arall y byddai'n ddoethach sefydlu siop arall yno.
"Se'n well gen i bod nhw'n cael shops bach ynddo fe, fatha supermarket bach" meddai.
"Ond mae pob dim yn cau wan, tydi?"