
Casglu biniau: Beth yw’r farn ar drothwy’r Etholiadau Lleol?

Casglu biniau: Beth yw’r farn ar drothwy’r Etholiadau Lleol?
Mae'r tywydd yn ffefryn heb os, ond mae ‘na bwnc arall sy’n cynnal sgwrs ar gornel stryd neu dros baned.
Beth yw hwnnw felly? Wel, eich gwasanaeth casglu gwastraff lleol.
Yr hyn sydd yn amlwg iawn wrth ddechrau ymchwilio i’r mater, yw bod gan bob un o awdurdodau lleol Cymru drefn ychydig yn wahanol i’w gilydd.
Tra bod rhai yn bodloni i chi daflu yr holl ddeunyddiau ailgylchu i un bag, mae eraill yn mynnu eich bod chi’n rhannu eich papur a’ch plastig, eich tiniau, a’ch poteli. Gydag ambell i awdurdod lleol yn casglu biniau du bob tair wythnos, mae eraill yn gwneud bob pythefnos.
Ond pa mor ddifrifol mewn gwirionedd yw'r pwnc i etholwyr ar lawr gwlad? Er mwyn cael trawsdoriad o safbwyntiau, bu Newyddion S4C yn holi pobl leol Brynaman, Cwmllynfell ac Ystradgynlais.
Yn yr ardal yma mae tair sir yn cwrdd, sef Sir Gaerfyrddin, Powys a Chastell-Nedd Port Talbot.
Ar y stryd fawr ym Mhowys, yr un gwyn gododd droeon oedd y ffaith mai bob tair wythnos y mae’r bagiau gwastraff cyffredinol yn cael eu casglu. Dywedodd un o'r trigolion;
“Mae e yn galed achos mae anabledd gen i. Felly weithiau, dwi’n methu mynd mas i ddodi’r bins mas, a mae’n cymryd tair wythnos iddyn nhw ddod. Felly mae e’n broblem. Mae ishe’r biniau du i ddod tamaid bach yn fwy aml.”

Serch hynny, doedd hynny ddim yn gymaint o broblem i drigolion arall, a’r ffaith bod yna gyfle i rannu’r gwastraff ail-gylchu i dri focs sy’n cael eu casglu’n wytnosol yn cael ei groesawu;
“Bob wythnos mae’r recycling, y bins bach ti’n gwybod yn dod. Chi’n gorfod rhannu’r cyfan, y tins, y plastics, a’r papur a’r cardboard, yn seperate yn pob un…”
“Ydw fi’n itha hapus ag e. Dwi’n byw wrth fy hunan felly dwi’n ddigon hapus”
'Lle i wella'
Draw yng Nghwmllynfell, roedd Martin Gray yn llawn canmoliaeth o’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan Gyngor Castell-Nedd Port Talbot;
“Mae’r cardboards, mae’r glass, a’r plastics, i gyd mewn bags individual. Popeth ar wahan. Pan ti’n dachre off, ti’n meddwl bod ‘na lot o waith, ond unwaith ti’n cael y bags a seperato nhw mas, ti’n deall y system, a mae e’n gweithio mas yn well wedyn.”
Yn Sir Gaerfyrddin ar y llaw arall, sydd dafliad carreg o’r neuadd yng Nghwmllynfell, un bag glas sy’n cael ei roi ar gyfer yr holl ddeunyddiau ail-gylchu. Rhywbeth sydd ddim wrth fodd Roydon Morgan;
“Mae ishe gwella. A mae lle i wella. Dyle nhw rannu pethe fel papur, a carboard a plastic mewn gwahanol bag. Bydde hwnna yn lot mwy effeithiol, a bydd e lot yn haws i’r cyngor ar ddiwedd y dydd.
“Mae’r system yn dda, ond mae ‘na le i tweako fe, a tweako a tweako fel bod e’n gwella wedyn," meddai Roydon.

I Sandra ar y llaw arall, mae gwasanaeth Sir Gaerfyrddin yn ardderchog;
“Rwy’n byw yn Sir Gaerfyrddin a mae popeth yn gweithio mas yn iawn fel dw i’n ei weld e. A mae’r dynion sy’n dod a’r bins yn hyfryd."
Yn Sir Gâr serch hynny, does ‘na ddim gwasanaeth casglu gwydr, a hynny yn siom i un;
“Na, dy’ nhw ddim yn dod i ôl y gwydr ch’yl. A hwnna hoffen i, se’n i’n cael bag arall neu bocs. Rhaid i fi ddweud, o ran sir Gaerfyrddin, sdim problem gyda fi, ond ‘se fe yn neis os delen nhw i ôl y gwydr o’r ty.”
'Mwy o gysondeb'
Amrywiaeth felly o ran y drefn a’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig, a’r un yw’r patrwm wrth edrych ar y sefyllfa drwy Gymru gyfan. Mae Cyngor Sir Dinbych newydd gyhoeddi cynllun newydd fydd yn dechrau yn hydref 2023.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor:
“Bydd y gwasanaeth ailgylchu gwastraff cartref newydd yn gweld casgliad wythnosol newydd ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy sych fel papur, gwydr, caniau, a phlastig, casgliad wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd a chasgliad newydd bob pythefnos ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychan."
"Bydd casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu yn newid o bob yn ail wythnos i bob pedair wythnos ac yn lle'r biniau du 140 litr presennol, byddai'r Cyngor yn darparu biniau du newydd, mwy 240 litr yn lle hynny, lle bo angen.”

Gyda chymaint o amrywiaeth o sir i sir, mae Cadwch Cymru’n Daclus yn teimlo y byddai mwy o gysondeb yn fuddiol.
“Mae e’n anodd iawn i ni ddweud shwt ddylai pob awdurdod lleol weithio, neu os oes yna bethau allai nhw ei wneud yn well," meddai Nia Lloyd o'r elusen.
"Ond hefyd ni’n gwybod bod gan y cynghorau hynny rheswm i roi’r rheolau mewn lle, falle does ganddyn nhw ddim yr infrastructure neu’r ffyrdd i ail gylchu.
"Ond os allwn ni weld fod pob lle yn cymryd yr un pethau, neu o leiaf yn rhoi’r un math o wybodaeth, dyna’r peth ni mo'yn gweld.”
Beth bynnag y drefn, mae’n amlwg yn bwnc sy’n cael ei gymryd o ddifrif gan etholwyr. Ac yn her i’r cynghorwyr hynny fydd yn cael eu hethol ar y pumed o Fai.