Boris Johnson i wynebu ASau wedi honiad iddo 'annog' parti yn Downing Street

Fe fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn wynebu Aelodau Seneddol am y tro cyntaf ers iddo dderbyn dirwy am dorri rheolau Covid-19.
Daw hyn wedi i Boris Johnson wynebu cyhuddiad o'r newydd ei fod wedi "annog" parti yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.
Yn ôl The Telegraph, nid oedd y digwyddiad i nodi ymadawiad Lee Cain, cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Rhif 10 yn barti tan i Mr Johnson ymuno.
Mae Downing Street yn gwadu i Mr Johnson drefnu'r digwyddiad.
Daeth cadarnhad ddydd Mawrth fod y Prif Weinidog wedi derbyn dirwy gan yr heddlu ddydd Mawrth am ddigwyddiad i ddathlu ei ben-blwydd ym mis Mehefin 2020.
Mae nifer o ddigwyddiadau eraill yn Whitehall yn ystod y cyfyngiadau yn dal i gael eu hymchwilio gan yr heddlu.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Rhif 10