Covid-19: Llacio cyfyngiadau ymhellach o ddydd Llun
Mae cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio ymhellach o ddydd Llun ymlaen.
O ddydd Llun, yr unig ofyniad cyfreithiol i reoli'r feirws yw gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal.
Er bydd y gofyniad cyfreithiol i fusnesau gynnal asesiadau risg penodol yn dod i ben ddydd Llun, maen nhw'n dal i gael eu hannog i gymryd camau i weithredu mewn modd diogel o ran Covid-19.
Roedd bwriad i gael gwared ar holl reolau Covid-19 erbyn 18 Ebrill.
Ond mewn cyhoeddiad ddydd Mercher, fe ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Dyw hyn ddim yn golygu bod y pandemig drosodd. Yn anffodus, mae’r coronafeirws dal yma – ry’n ni wedi gweld cynnydd mewn heintiau dros y mis diwethaf, gyda niferoedd mawr o bobl yn mynd yn sâl a chynnydd yn y niferoedd sy’n gorfod mynd i ysbyty.
“Ry’n ni’n gobeithio ein bod yn dechrau troi’r cornel. Ond mae’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn parhau i gymryd camau i ddiogelu ein gilydd.”
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r newyddion gan ddweud bod cadw rheolau mewn grym yn effeithio ar fusnesau yn ystod penwythnos hir Gŵyl y Banc.
Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 5 Mai.
Yn ôl y llywodraeth, mae’n bosib bydd y cyfyngiadau yn cael eu dileu yn llwyr o 9 Mai.