Chwaraewyr pêl droed Cymru wedi eu henwebu am wobrau

Mae chwaraewyr pêl droed Cymru Harry Wilson a Brennan Johnson wedi eu henwebu am wobrau am eu perfformiadau i’w clybiau cynghrair eleni.
Mae Wilson, sy’n chwarae i Fulham wedi ei enwebu fel Chwaraewr y Flwyddyn yn y Bencampwriaeth.
Mae Johnson, sy’n chwarae i Nottingham Forest, wedi ei enwebu ar gyfer gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn.
Mae nifer o chwaraewyr sy’n chwarae yng Nghymru hefyd wedi eu henwebu yng ngwobrau’r Gynghrair Bêl droed.
Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn noson wobrwyo ar 24 Ebrill.
Darllenwch y stori yn llawn yma.