Newyddion S4C

Trefniadau ‘shambolig’ yn rhwystro ffoaduriaid i gyrraedd y DU

Sky News 16/04/2022
Wcráin: Llun DEC

Mae cynllun i gynnig lloches yn y DU i ffoaduriaid Wcráin wedi ei ddisgrifio fel “shambolig” gan rai sy’n cynnig llety.

Mae miloedd o bobol sydd wedi cynnig llety yn y DU yn dal i aros i groesawu pobol o Wcráin mwy na mis ers i’r cynllun gael ei lansio.

Dywedodd Lynette Protheroe o Sir Derby ei bod hi'n dal i aros i glywed am hanes ei chynnig i roi llety i deulu wythnosau ar ôl llenwi’r ffurflenni angenrheidiol.

“Mae’r system yn shambolig ac yn methu’r bobol yma,” meddai.

Ers lansio’r cynllun ar 14 Mawrth, mae Llywodraeth y DU wedi derbyn 55,600 o gynigion am fisa.

Mae 25, 100 fisa wedi eu rhoi ac mae 3,200 o’r rheini wedi cyrraedd y DU.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.