Angen gwella gwasanaethau dementia i gleifion o gymunedau Du, Asiaidd ag ethnig leiafrifol medd elusen

ITV Cymru 15/04/2022
ITV

Mae yna alwadau am well gwasanaethau a chymorth dementia ar gyfer cleifion yng Nghymru o gymunedau Du, Asiaidd ag ethnig leiafrifol.

Yn ôl Cymdeithas Alzheimer's Cymru mae disgwyl i nifer y bobl o gefndir amlddiwylliannol sy'n cael eu heffeithio gan ddementia godi erbyn 2050.

Mae gan Samia Egeh, o Gaerdydd, brofiad personol a phroffesiynol o’r broblem, gyda’i thad yn dioddef o ddementia.

Yn ôl Samia, dechreuodd weithio gyda’r henoed i wella gwasanaethau ar ôl gweld yn uniongyrchol y diffyg cymorth sydd ar gael i'w thad, Ali.

Symudodd Ali Egeh i Gymru o Somalia yn ei arddegau, gan ymgartrefu yn Grangetown yng Nghaerdydd. 

Daeth Ali yn rhan bwysig o’r gymuned leol ond mae dementia wedi effeithio ar ei allu i fynd allan a chymdeithasu.

“Roedd fy nhad yn berson hyderus, ond fe welsom ni ddirywiad ac mi oedd hynny’n drist iawn,” meddai Samia.

“Pan mae pobl yn cael diagnosis dementia, mae nifer ohonyn nhw yn mynd nôl i’w mamiaith.

“Maen nhw hefyd eisiau gweld pobl o’u cymunedau eu hunain, wynebau maen nhw’n eu hadnabod, straeon y gallen nhw eu rhannu gyda phobl y mae ganddyn nhw bethau yn gyffredin â nhw.

“Mae’r bwyd yn beth arall – mae hynny’n bwysig iawn yn ein diwylliant ni, felly mae nifer heb y bwydydd maen nhw wedi arfer.”

Amcangyfrifir bod 50,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru.

Dywedodd Swyddog Polisi ar gyfer Cymdeithas Alzheimer's Cymru, Huw Owen: "Ar hyn o bryd nid yw'r gefnogaeth sydd ar gael yn ddiwylliannol yn briodol - nid yw'n cymryd mewn i ystyriaeth y sensitifrwydd diwylliannol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu gwasanaethau trwy'r Cynllun Gweithredu Dementia sydd wedi'i gefnogi gyda chyllid blynyddol gwerth £12m. 

Llun: Samia Egeh

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.