Ail-agor yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd wedi dwy flynedd ar gau
Ail-agor yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd wedi dwy flynedd ar gau
Mae yna "fwrlwm" yng nghymuned leol Bae Caerdydd wrth i'r Eglwys Norwyaidd ail-agor ei ddrysau ar ôl bod ar gau am ddwy flynedd.
Mae'r safle wedi wynebu problemau ariannol dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd diffyg elw a chostau cynnal a chadw uchel.
Cafodd y problemau eu gwaethygu wrth i gyfyngiadau Covid-19 orfodi'r eglwys i gau yn ystod y pandemig.
Ym mis Tachwedd y llynedd, fe benderfynodd Cabinet Cyngor Caerdydd i drosglwyddo perchnogaeth yr eglwys i elusen newydd sydd wedi ei arwain gan y Gymdeithas Norwyaidd Gymraeg.
Bwriad y penderfyniad oedd adnewyddu'r safle ac amddiffyn un o adeiladau hanesyddol Caerdydd.
Mae'r elusen wedi mynd ati i adnewyddu'r eglwys gan ddatblygu'r caffi, oriel a neuadd er mwyn cynnal mwy o ddigwyddiadau a chwarae rôl ganolog yn y gymuned leol.
Yn ôl rheolwr cyffredinol newydd yr eglwys, roedd y gymuned yn falch o weld y drysau yn ail-agor wythnos diwethaf.
"Dwi meddwl bod pobl jyst yn hapus bod y lle ar agor eto," meddai Gareth Lloyd Roberts.
"Mae pobl wedi colli cael y cyfle i fynd mewn dros y ddwy flynedd diwethaf."
"Gan bod y lle yn edrych yn fwy fresh nawr, bod pethau yn dod nôl i'r neuadd ac i'r oriel lan lofft, mae pobl jyst yn hapus i weld bod y lle yn cael ei defnyddio eto."
Mae gan yr eglwys nifer o gynlluniau i gynnal digwyddiadau cymunedol gan gynnwys cyd-weithio gyda grŵp theatr Hijinks i arddangos perfformiadau neu gynnal sesiynau dawns i bobl sydd â Parkinsons.
Bydd yr eglwys hefyd yn parhau i fabwysiadu'r cysylltiad rhwng Cymru a Norwy, trwy drefnu cyfarfodydd i'r gymuned Norwyaidd yng Nghaerdydd a gwerthu bwyd traddodiadol o Norwy yn y caffi.
"Mae mynd i fod yn grêt," meddai Gareth.
"Mae'r gymuned di bod yn wych, pobl yn dod lan aton ni yn dwli ar y ffordd mae'r lle yn edrych eto.
"Mae pawb yn falch bod y lle ar agor."