Newyddion S4C

Apêl heddlu i ymosodiad hiliol honedig yn Aberystwyth

14/04/2022
Llun: Heddlu Dyfed Powys
Llun: Heddlu Dyfed Powys

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ymosodiad hiliol honedig a ddigwyddodd yn ystod oriau man y bore tu allan i glwb nos Pier Pressure yn Aberystwyth.

Dywed yr heddlu fod y digwyddiad wedi cymryd lle am tua 02:00 fore Sul, Ebrill 3 pan honnir fod dyn wedi taro dyn arall 59 oed cyn defnyddio iaith hiliol yn ei erbyn.

Mae’r heddlu nawr wedi cyhoeddi llun o ddyn yr hoffent nhw ei holi mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae’r heddlu yn apelio ar i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.