Rhieni wedi eu cyhuddo o ddynladdiad eu merch

Bydd rhieni yn mynd o flaen llys ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf wedi eu cyhuddo o ddynladdiad ar ôl esgeuluso eu merch.
Fe gafodd Kaylea Titford, 16, o'r Drenewydd ei darganfod yn farw ym mis Hydref 2020.
Mae ei rhieni, Alun Titford a Sarah Lloyd-Jones, wedi eu cyhuddo o beidio sicrhau bod anghenion deiet eu merch yn cael eu bodloni yn ogystal â diffyg ymarfer corff a hylendid.
Roedd disgwyl i'r ddau fynd gerbron Llys y Goron Wyddgrug ddydd Iau, ond mae Mr Titford yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
Mae disgwyl i'r gwrandawiad nesaf ddechrau ar 30 Mehefin gyda'r achos i ddechrau mis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Darllenwch fwy yma.