Elon Musk yn cynnig prynu Twitter am $41.39bn

Mae'r biliwnydd Elon Musk wedi cynnig prynu Twitter am $41.39bn.
Fe wnaeth Mr Musk, sydd hefyd yn brif weithredwr cwmni Tesla, gynnig gwerth o $54.20 y gyfran, sydd 38% yn uwch na phris terfynol stoc y cwmni ar 1 Ebrill.
Daw hyn ddyddiau yn unig ar ôl i Mr Musk wrthod rôl ar bwyllgor cyfryngau cymdeithasol cwmni Tesla gan y byddai hyn yn ei rwystro rhag y posiblrwydd o brynu'r cwmni.
Mae Mr Musk yn berchen 73,486,938 o gyfrannau Twitter yn barod, sydd yn gyfystyr â £3.3 biliwn.
Dywedodd mai dyma'r cynnig 'gorau a'r cynnig terfynol, ac os nad yw'n cael ei dderbyn, byddai'n rhaid i mi ail ystyried fy sefyllfa fel cyfranddaliwr.'
Darllenwch fwy yma.
Llun: James Duncan Davidson