‘Ddim yn hawdd cael gafael ar arbenigwyr Parkinsons’ 

14/04/2022

‘Ddim yn hawdd cael gafael ar arbenigwyr Parkinsons’ 

Mae dyn sy’n byw gyda chlefyd Parkinson wedi dweud ei bod hi’n rhy anodd cael gafael ar arbenigwyr i drin y clefyd yng Nghymru.
 
Cafodd Huw Davies, sy’n un o dros 7,000 o bobl sy’n dioddef o’r clefyd yng Nghymru, ddiagnosis o’r cyflwr yn 2010, ychydig flynyddoedd cyn ymddeol fel athro ffiseg. 
 
“O’n i’n eistedd yn y sedd yn gwylio’r teledu a ffeindio bod fy nghoes dde i’n symud lan a lawr drwy’r amser.
 
“Doedd dim ffordd o’n i’n gallu stopio fe.
 
“Ac wedyn pethau bach arall fel rhoi’r allwedd yn y drws - o’n i’n ffeindio fe’n anodd iawn achos bod e’n siglo a rhyw wahanol bethau tebyg wedyn. Gweld fy ysgrifen wedi dirywio’n ofnadwy.”

Rhwystredig


Mae'r nifer o bobl sydd gyda chlefyd Parkinson yn cynyddu’n fwy nag unrhyw afiechyd niwrolegol arall, ac mae Mr Davies, sy’n byw yng ngorllewin Sir Gâr, yn galw am fwy o arbenigwyr yng Nghymru.  
 
Ar hyn o bryd, nid oes ffordd o wella’n llwyr o’r cyflwr, er bod meddyginiaethau ar gael i helpu rheoli’r symptomau.
 
Er bod triniaethau ar gael, mae Mr Davies yn teimlo’n rhwystredig nad oes digon o arbenigwyr ar gael yng Nghymru, a dydy'r pandemig heb helpu’r sefyllfa.
 
“Dydy hi ddim yn hawdd cael gafael ar yr arbenigwyr, yn enwedig gyda’r feirws hyn wedi bod ambwyti nawr. Doeddwn i ddim yn dewis mynd i’r ysbyty tra bod y covid o gwmpas. Dwi’n dechrau mynd ‘nôl nawr, mae apwyntiad arbenigwr gyda fi cyn bo hir nawr.”
 
Mae’r afiechyd yn un sy’n gwaethygu’n raddol dros amser, sy’n golygu bod nifer yn gorfod addasu ei ffordd o fyw. 
 
“Yn aml iawn, os bydda’ i’n cael pryd o gig a thatws, dwi’n gorfod gofyn i rywun dorri’r cig i fi. Does dim cryfder gyda fi i dorri’r cig. Dwi’n yfed allan o welltyn achos dwi methu plygu’r gwpan ‘nôl yn ddigon pell i yfed e’n normal.”
 
“Bydd yn rhaid i fi fynd i Gaerdydd nawr i weld arbenigwr. Dwi’n mynd i Gaerdydd. Mae ‘na uned yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli, ond mae ‘na restrau aros dychrynllyd.”
 
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: “fel rhan o’r cyllid sydd ar gael i gefnogi adferiad y GIG yn dilyn y pandemig, mae £1 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer gwasanaethau i bobl sy’n aros am driniaeth, gan gynnwys pobl a chyflyrau niwrolegol.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.