'Ymosodiadau personol' yn atal cynghorwyr sir rhag ailsefyll

'Ymosodiadau personol' yn atal cynghorwyr sir rhag ailsefyll
Ar drothwy Etholiadau Lleol Cymru, mae hi wedi dod i’r amlwg y bydd 74 o gynghorwyr sir yn gallu hawlio eu seddau heb orfod sefyll etholiad.
Mae mwyafrif o'r seddi hynny sydd heb ornest yng Ngwynedd (28) a Sir Benfro (19). Ond cafodd 18 yn fwy o gynghorwyr eu hethol heb etholiad yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017 (92).
Mae rhai cynghorwyr wedi penderfynu peidio sefyll eto oherwydd ymosodiadau personol. Y Parchedig Huw George, aelod o Gyngor Sir Penfro am 16 mlynedd, yw un o’r cynghorwyr sy’n ildio’r awennau.
"Mae'r ymosodiadau personol wedi bod yn cynyddu dros y blynyddoedd ac wedi bod yn ffyrnig ac yn chwerw ac mae yna amser yn dod pan chi'n gorfod, er eich lles eich hunan, dynnu llinell," meddai.
Yn ôl Huw George, mae ymosodiadau gan gyd-gynghorwyr wedi dylanwadu ar ei benderfyniad.
"Dwi o blaid addysg Gymraeg. Roedd y pethau roedd pobl yn dweud ac yn gwneud yn ofnadwy. Dwi'n Gristion ac yn weinidog ond roedd hynny yn destun sbort a chwerthin.
"A chi'n dechrau meddwl wedyn, pam codi yn y bore a rhoi eich hunan drwy hynny? Roedden nhw'n meddwl fod hi'n sbort. Mae eisiau newid y diwylliant, yn bendant.
"Mae yna ddiwylliant o chwerwder yn perthyn i'r cyngor. Mae'n rhaid i wleidyddiaeth newid yng Nghymru fel bod ni'n parchu ein gilydd.
"Anghytuno, ond sdim rhaid mynd dros ben llestri a mynd yn bersonol am bob dim."
Bydd etholiadau lleol Cymru yn cael eu cynnal ar 5 Mai, 2022.