Newyddion S4C

Ed Sheeran yn ennill achos llys hawlfraint am ei gân Shape of You

The Independent 06/04/2022
Ed Sheeran - Llun Eva Rinaldi

Mae Ed Sheeran wedi ennill achos hawlfraint yn yr Uchel Lys wrth i farnwr benderfynu na wnaeth y canwr ddwyn rhannau o'i gân 'Shape of You.'

Cafodd Sheeran a'i gyd-ysgrifenwyr, Johnny McDaid a Steven McCuthcheon, eu cyhuddo gan Sami Chokri o'i gopïo wrth ysgrifennu'r gân yn 2016. 

Dywedodd Mr Chokri, sydd yn perfformio dan yr enw Sami Switch, fod Shape of You yn debyg mewn mannau i'w gân 'Oh Why' a gafodd ei chyhoeddi yn 2015. 

Ond mewn dyfarniad ddydd Mercher, dywedodd Ustus Zacaroli nad oedd tystiolaeth i ddangos bod Sheeran wedi copïo’r gân mewn unrhyw ffordd. 

Yn dilyn yr achos, dywedodd Sheeran fod y sefyllfa wedi "cael effaith ar ei iechyd meddwl."

Darllenwch fwy yma

Llun: Eva Rinaldi (drwy Flickr)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.