Newyddion S4C

Amelia, merch saith oed o Wcráin, yn canu’n fyw ar S4C nos Sul

03/04/2022

Amelia, merch saith oed o Wcráin, yn canu’n fyw ar S4C nos Sul

Mae Amelia Anisovych, merch saith oed o Wcráin lwyddodd i gipio calonnau ledled y byd yn ddiweddar, wedi canu anthem genedlaethol ei gwlad yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar raglen Côr Cymru ar S4C nos Sul.  

Fe ganodd Amelia y gân Let it Go allan o’r ffilm Frozen mewn lloches fomiau yn Kyiv yn ddiweddar, ac fe gafodd fideo ohoni yn canu yng nghanol erchyllterau'r sefyllfa yn Wcráin ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn fyd eang. 

Yn sgil hynny, perfformiodd Amelia anthem Wcráin mewn cyngerdd elusennol yng Ngwlad Pwyl.

Roedd Amelia wedi teithio i Aberystwyth i berfformio Let it Go yn ffeinal Cystadleuaeth Côr Cymru 2022 ar S4C. 

Wedi hynny, fe ganodd anthem ei gwlad mewn perfformiad dirdynnol.

Fe ddywedodd Amelia ei bod “wrth fy modd yn canu, a dwi’n ymarfer bob bore, pnawn a nos! Mae bob amser wedi bod yn freuddwyd i fi gael perfformio.”

Fe ychwanegodd Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C: “Mae’n fraint arbennig cael croesawu Amelia i Gymru ac i ganu yn Aberystwyth.

“Mae wedi bod yn benwythnos o gerddoriaeth pwerus ar S4C gyda Chyngerdd Cymru ac Wcráin a ffeinal Côr Cymru ac rydyn ni’n falch o gael uno perfformwyr Cymru ac Wcráin gan ymfalchïo yn nhalent Amelia.”

Côrdydd enillodd cystadleuaeth Côr Cymru 2022 ar y noson dan arweiniad Huw Foulkes, gan dderbyn gwobr o £4,000.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.