O'r cwrt tennis i'r silff lyfrau i ddyn 101 oed o Lanelli
29/03/2022O'r cwrt tennis i'r silff lyfrau i ddyn 101 oed o Lanelli
Mae pencampwr tennis 101 oed o Lanelli wedi troi’n awdur ar ôl ysgrifennu a chyhoeddi ei hunangofiant er mwyn codi arian i hosbis plant Tŷ Hafan.
Dyw Basil Smith ddim wedi cefnu ar ei raced eto, ond mae e wedi penderfynu rhoi’r holl elw o’i lyfr tuag at elusen Tŷ Hafan, lle’r oedd ei hen, hen nai Alfi yn cael gofal cyn iddo farw yn 2015.
Mae Basil wedi chwarae tenis yn broffesiynol ac yn parhau i chwarae'r gêm.
"Rwyf wedi bod yn ffodus iawn yn fy mywyd ac rwyf wedi cael bywyd da," meddai ef.
"Ond yn 2013, cafodd fy ngwraig strôc fawr a dim ond tridiau yn ddiweddarach, fe ges i lawdriniaeth i dynnu tiwmor yn Ysbyty Treforys. Roeddwn i'n ffodus iawn, gan nad oedd rhaid i mi gael cemotherapi na radiotherapi o gwbl.
“Roeddwn i'n 92 oed bryd hynny. Gwnaeth yr hyn a ddigwyddodd y flwyddyn honno wneud i mi feddwl am fy iechyd a pha mor ffodus rydw i wedi bod trwy gydol fy mywyd.”
'Plant angen eu cymorth'
Yn 2013 roedd Basil wrth ei fodd wrth iddo ddod yn or-hen ewythr i efeilliaid Besi ac Alfi. Ond trodd ei lawenydd yn dristwch pan gafodd Alfi ddiagnosis o Syndrom Marfan Newydd-enedigol.
Bu farw Alfi ar Ddydd Gŵyl Dewi 2015, ar ben-blwydd priodas ei rieni.
Mae 170 o gopïau o'i gyfrol wedi eu hargraffu, ac mae e eisoes wedi gwerthu 120 o gopïau. Nawr mae'n gobeithio gwerthu'r 50 olaf a chodi dros £1,500 i Dŷ Hafan.
“Rwy’n gobeithio y bydd pobl ledled Cymru yn cefnogi Tŷ Hafan drwy brynu fy llyfr ac mewn llawer o ffyrdd eraill,” meddai Basil a gafodd ei fagu yn Llandeilo.
“Mae cymaint o afiechydon allan yna a chymaint o blant sydd angen eu cymorth.”
Dywedodd Shelley Kirkham, Uwch Swyddog Gweithredol Codi Arian Tŷ Hafan ar gyfer Gorllewin Cymru:
“Mae’r gwahaniaeth mae pobl fel Basil yn wneud i Dŷ Hafan yn meddwl popeth i ni.
"Mae pobl sy’n codi arian yn cadw'r hosbis ar agor, ei nyrsys ar yr heolydd, a chefnogi teuluoedd sydd eisiau ein cymorth ni.
“Bydd yr arian mae Basil wedi codi yn golygu ein bod ni’n gallu cefnogi rhagor o deuluoedd.
“Mae Basil wedi cefnogi ni am gyfnod hir. Mae e’n ddyn mor garedig ac mae e'n rhoi cymaint o arian i ni a ni’n rili gwerthfawrogi Basil.”