TGAU Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth yn cyfuno i greu un cymhwyster newydd
Fe fydd cymwysterau TGAU Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth yn cyfuno i greu un pwnc wrth i newidiadiau gael eu cyflwyno i'r gyfundrefn arholiadau.
Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y bydd y newidiadau i arholiadau TGAU Cymraeg yn dod i rym yn 2025 er mwyn cynorthwyo mwy o ddysgwyr i ddatblygu'n siaradwyr Cymraeg hyderus.
Un o'r newidiadau yw cyfuno'r ddau gymhwyster ar gyfer y Gymraeg sy'n cael ei gynnig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a chynnig un TGAU Cymraeg.
Yn ogystal â'r newid hwn, bydd cymhwyster newydd yn disodli TGAU Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
A bydd cymhwyster ychwanegol ar gael mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i ddisgyblion sy'n awyddus i ddatblygu eu Cymraeg ymhellach.
'Newidiadau radical'
Wrth gyhoeddi'r newidiadau, dywedodd Emyr George, Cyfarwyddwr Cymwysterau Cymru dros Bolisi a Diwygio Cymwysterau: "Yn y pen draw, rydym am weld un cymhwyster Cymraeg cyffredinol ar gyfer pob dysgwr ym mhob lleoliad, ond nid ydym yno eto oherwydd bod gan ddysgwyr lefelau amrywiol o gysylltiad â'r iaith."
“Bydd y cymwysterau'n rhoi cyfle teg a chyfartal i bob dysgwr gyflawni yn y Gymraeg."
"Maen nhw’n adlewyrchu'r gwahanol setiau o ddisgwyliadau ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg, fel yr amlinellir yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, tra hefyd yn caniatáu i'r dysgwyr hynny mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i symud ymlaen ymhellach ac yn gyflymach ar hyd y continwwm Cymraeg."
Ychwanegodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: ""Dylai cymwysterau Cymraeg gefnogi pob dysgwr ar eu taith Gymraeg a darparu llwybr tuag at nod cyffredin.
"Rwy’n croesawu’r cymwysterau Cymraeg newydd, sy’n cael gwared ar y cysyniad o’r Gymraeg fel ail iaith ac a fydd yn gwobrwyo gwaith caled y rhai sy’n astudio’r Gymraeg ar draws sbectrwm cyfan profiad a gallu yn y Gymraeg.
“Rydw i wedi bod yn glir bod yn rhaid i newidiadau i gymwysterau fod yn radical ac yn uchelgeisiol a chefnogi’r Cwricwlwm newydd, wrth inni symud at gontinwwm ar gyfer dysgu Cymraeg, o’r rhai sydd ag ychydig neu ddim profiad iaith, i’r rhai sy’n gweithio tuag at hyfedredd.”