Carcharu cyn-ofalwr am 16 mis am ddwyn cynilion dynes 93 oed
21/01/2022Mae cyn-ofalwr "creulon" a ddygodd holl gynilion dynes 93 oed oedd yn byw ag Alzheimer's wedi cael ei charcharu am 16 mis.
Cyfaddefodd Mandy Murphy, 52, ei bod wedi dwyn o gartref Winifred Egerton yn ardal Benllech tra'r oedd hi yn yr ysbyty.
Cymerodd Murphy ei cherdyn banc a dwyn £9,210 o’i chyfrif gyda Swyddfa’r Post, yn ôl North Wales Live.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Murphy bellach wedi talu'r arian yn ôl, gan ddweud mai'r ffaith ei bod yn gaeth i siopa oedd y rheswm.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Heddlu'r Gogledd