Llacio cyfyngiadau Covid-19 ar weithgareddau awyr agored
Fe fydd modd i glybiau chwaraeon Cymru groesawu torfeydd yn ôl o ddydd Sadwrn ymlaen, yn dilyn newidiadau i gyfyngiadau Covid-19 y llywodraeth.
Mae llacio ar gyfyngiadau yn golygu y bydd y nifer o bobl sy’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored yn codi o 50 i 500.
Ers dydd San Steffan, mae Cymru wedi bod ar Lefel Rhybudd Dau fel rhan o ymateb y llywodraeth i ledaeniad yr amrywiolyn Omicron.
Ond dros y pythefnos nesaf bydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio yng Nghymru wrth i’r wlad symud yn ôl i Lefel Rhybudd Sero medd y llywodraeth.
Beth fydd y camau nesaf?
O ddydd Gwener 21 Ionawr, ni fydd cyfyngiadau ar ddigwyddiadau awyr agored wrth i ddigwyddiadau tu allan symud i Lefel Rhybudd Sero.
Mae hyn yn golygu y bydd torfeydd yn cael dychwelyd i stadiymau chwaraeon wedi i gemau gael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig.
Ond bydd angen pás Covid-19 i gael mynediad i ddigwyddiadau awyr agored mwy eu maint.
Os yw'r niferoedd o achosion Covid-19 yn parhau i ostwng, ar 28 Ionawr fe fydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd Sero.
O ganlyniad fe fydd clybiau nos yn cael ail-agor a dim angen i'r sector lletygarwch barhau â’r 'rheol chwe pherson'.
Fe fydd y cyfyngiadau yn cael eu hadolygu bob tair wythnos unwaith eto unwaith y bydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd Sero.