Rhif 10 yn ymddiheuro i'r Frenhines am bartïon ar drothwy angladd y Tywysog Philip

Sky News 14/01/2022
Boris Johnson - Llun Rhif 10

Mae swyddogion o Rhif 10 Downing Street wedi ymddiheuro i'r Frenhines am drefnu dau barti ar drothwy angladd y Tywysog Philip.

Dywedodd llefarydd ar ran y prif weinidog Boris Johnson ei bod yn "anffodus iawn bod hyn wedi digwydd ar adeg o alaru cenedlaethol".

Digwyddodd y partïon ar 16 Ebrill 2021 - oedd yn ôl adroddiad ym mhapur The Telegraph ddydd Gwener yn cynnwys "pobl yn yfed a dawnsio i gerddoriaeth."

Dywedwyd fod un mynychwr wedi cael ei anfon gyda chês dillad i’w lenwi â photeli o win - y noson cyn i'r Frenhines orfod eistedd ar ei phen ei hun yn angladd ei gŵr yng Nghapel San Siôr, Windsor.

Yn ystod cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford y dylai person annibynnol arwain yr ymchwiliad i bartïon honedig yn Rhif 10 Downing Street.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.