Pegwn ton Omicron yng Nghymru wedi cyrraedd 'yn gynt na'r disgwyl'
Pegwn ton Omicron yng Nghymru wedi cyrraedd 'yn gynt na'r disgwyl'
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud bod pegwn ton Omicron wedi cyrraedd "ynghynt na'r disgwyl".
Roedd y modelu yn awgrymu na fyddai'r don yn cyrraedd yng Nghymru tan yn hwyrach ym mis Ionawr.
Dywedodd hefyd fod y llywodraeth yn "fwy hyderus" fod "effaith Omicron yn wannach".
Serch hynny, roedd Mr Drakeford yn annog gofal wrth edrych y ffigyrau diweddaraf o ran achosion gan nad yw hi'n angenrheidiol i bobl sy'n profi'n bositif ar brawf llif unffordd gael prawf PCR i gadarnhau bellach.
"Dwi ddim yn meddwl fod y modelu yn anghywir yn ei hanfod", meddai Mr Drakeford.
"Ni'n meddwl ein bod wedi gweld y pegwn ychydig ynghynt na'r disgwyl."
Ond roedd y Prif Weinidog yn ffyddiog bod y mesurau a gafodd eu cyflwyno gan ei lywodraeth yn llwyddiannus.
"Roedd y mesurau a gymrwyd yng Nghymru yn angenrheidiol ac yn effeithiol".
Beth sy'n newid?
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, fe gyhoeddodd Mr Drakeford na fydd gweithio o adref yn ofyniad cyfreithiol o ddiwedd y mis.
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai cyngor cryf i barhau i weithio o adref wedi 28 Ionawr.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth raglen Radio Wales Breakfast y bydd y nifer o bobl sy’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored yn codi o 50 i 500 ddydd Sadwrn.
O ddydd Gwener 21 Ionawr, ni fydd cyfyngiadau ar ddigwyddiadau awyr agored wrth i ddigwyddiadau tu allan symud i Lefel Rhybudd Sero.
Bydd hyn yn golygu y bydd torfeydd yn gallu dychwelyd i stadiymau chwaraeon yng Nghymru wedi i gemau gael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig dros y dyddiau diwethaf.
Os yw'r niferoedd o achosion Covid-19 yn parhau i leihau, ar 28 Ionawr fe fydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd Sero am ddigwyddiadau dan do.
Bydd clybiau nos yn medru ail-agor a’r sector lletygarwch ddim yn gorfod parhau â’r “rheol chwe pherson”.
Fe fydd y cyfyngiadau yn cael eu hadolygu bob tair wythnos unwaith eto unwaith y bydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd Sero.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd cyfyngiadau'n cael eu llacio yn ystod yr wythnosau nesaf.