Honiadau newydd am 'bartïon' yn Rhif 10 y noson cyn angladd Dug Caeredin

Mae honiadau o'r newydd am bartïon yn Rhif 10 dan gyfyngiadau llym Covid-19, a hynny'r noson cyn angladd Dug Caeredin.
Nid yw Downing Street wedi gwadu'r adroddiadau gwreiddiol yn y Telegraph am ddau ddigwyddiad pellach ar adeg pan oedd cymysgu dan do wedi ei wahardd.
Yn ystod y digwyddiad honedig, mae adroddiadau bod staff Downing Street wedi yfed alcohol tan oriau man y bore mewn dau ddigwyddiad i staff oedd yn gadael ym mis Ebrill y llynedd.
Nid oes awgrym fod Boris Johnson ei hun yn bresennol yn yr un o'r ddau ddigwyddiad, yn ôl Sky News.
Ond mae disgwyl y bydd yr adroddiadau newydd yn cynyddu'r pwysau ymhellach ar y prif weinidog, gyda phumed Aelod Seneddol Ceidwadol bellach wedi galw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo.
Darllenwch fwy ar y stori yma.
Llun: Rhif 10 (drwy Flickr)