Cyfyngiadau Covid-19 i gael eu llacio'n raddol dros y pythefnos nesaf
Bydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio yng Nghymru dros y pythefnos nesaf wrth i’r wlad symud yn ôl i Lefel Rhybudd Sero medd y llywodraeth.
Ers dydd San Steffan, mae Cymru wedi bod ar Lefel Rhybudd Dau fel rhan o ymateb y llywodraeth i ledaeniad yr amrywiolyn Omicron.
Bu cyfyngiadau ar y nifer o bobl sydd yn medru ymgynnull ac fe gafodd cyfyngiadau eu hail-gyflwyno i'r sector lletygarwch gan gynnwys y 'rheol chwech'.
Yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn amlinellu'r cynlluniau i lacio'r cyfyngiadau presennol mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Gwener.
Bydd cyfyngiadau ar weithgareddau awyr agored yn cael eu codi yn gyntaf gan alluogi torfeydd i ddychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon.
Mae Plaid Cymru wedi galw am lacio'r cyfyngiadau ar chwaraeon os yw pegwn y don wedi ei gyrraedd.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd am weld y cyfyngiadau ar y sector lletygarwch yn cael eu codi a lleihau'r cyfnod hunan-ynysu o saith diwrnod i bump (gyda phrofion llif unffordd negyddol ar ddiwrnod pump a'r diwrnod ar ôl i'r cyfnod ddod i ben).
Llwyddiant yr ymgyrch frechu
Bu cynnydd serth yn y nifer o achosion Covid-19 dros y misoedd diwethaf wrth i'r amrywiolyn Omicron ledaenu ar draws Cymru.
Ar un adeg, roedd y gyfradd achosion ymhob 100,000 o bobl dros saith diwrnod wedi cyrraedd 2,335.3 - ei lefel uchaf erioed.
Er hyn, mae'r nifer o achosion sydd yn cael eu cofnodi yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol dros y dyddiau diwethaf.
Cafodd 3,197 o achosion newydd eu cofnodi ddydd Iau a bellach nid oes gan yr un sir yng Nghymru gyfraddau'n uwch na 2,000 o achosion ymhob 100,000 o bobl.
Dywedodd y llywodraeth y byddai'n bosib dechrau codi cyfyngiadau o ganlyniad i'r lleihad mewn achosion a llwyddiant yr ymgyrch i ddarparu brechlynnau atgyfnerthu.
Erbyn hyn, mae dros 1.75m o bobl wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu yng Nghymru.
Bydd y cyfyngiadau yn cael eu llacio'n raddol dros y pythefnos nesaf os mae'r sefyllfa yn parhau i wella.