Newyddion S4C

Ymuno â sêr ifanc tîm sglefrio iâ Prydain yn deimlad 'bonkers'

Newyddion S4C 13/01/2022

Ymuno â sêr ifanc tîm sglefrio iâ Prydain yn deimlad 'bonkers'

Mae Romy Davies Jeans wedi cael ei dewis i ymuno gyda thîm sglefrio iâ Prydain.

Mae Romy, sy'n 10 mlwydd oed, yn byw gyda'i theulu yng Nghaerdydd.

Dechreuodd sglefrio iâ pan oedd hi’n dair blwydd oed.

Ond nawr mae ganddi newyddion mawr.

Mae hi wedi cael ei dewis i ymuno â sgwad datblygu sêr ifanc tîm sglefrio iâ Prydain.

Ar ôl iddi glywed y newyddion, meddai: “Oedd fi’n mynd yn ‘bonkers’!”

'Eisiau mynd i'r Olympics'

Roedd Romy yn rhan o dîm Prydain cyn y pandemig.

Ond daeth y cyfle yna i ben yn sgil y cyfyngiadau Covid-19.

Ond roedd Romy yn benderfynol o beidio â rhoi’r gorau iddi.

Heb fynediad i'r iâ yn ystod y cyfyngiadau, fe ddechreuodd hi ymarfer yn ei thŷ.

Meddai: “Oeddwn i wedi dechrau gwneud stretches adref ac wedyn oedd ‘rinks’ mewn Lloegr ‘di agor.  So o'n ni ‘di mynd i Coventry a Swindon.”

Bydd Romy yn ymuno â thîm Prydain o fewn y misoedd nesa’.

Tan hynny, y cynllun yw treulio pob eiliad sbâr ar yr iâ – gyda nod uchelgeisiol mewn golwg.

“Dwi eisiau mynd i’r Olympics pryd dwi’n hen.”

Felly, os nad yw’r enw yn gyfarwydd nawr, mae Romy yn gobeithio newid hynny maes o law.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.