Newyddion S4C

Cyfnod hunan-ynysu Cymru i aros yn saith diwrnod er y newidiadau yn Lloegr

13/01/2022
Stryd y Frenhines, Caerdydd

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan o gwtogi'r cyfnod hunan-ynysu i bobl sydd wedi eu brechu'n llawn.

Bydd y cyfnod hunan-ynysu i bobl sydd wedi eu brechu'n llawn yn Lloegr yn cael ei gwtogi o saith i bum niwrnod medd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth San Steffan, Sajid Javid.

Dywedodd Mr Javid "nad oedd dau o bob tri o achosion positif yn heintus erbyn diwedd y pumed niwrnod".

Fe fydd y newidiadau yno'n dod i rym o ddydd Llun.

Fe fydd modd i bobl sydd wedi eu brechu'n llawn dros y ffin orffen eu cyfnod hunan-ynysu ar ôl pum niwrnod llawn, cyhyd eu bod yn derbyn canlyniadau prawf Covid-19 negyddol ar y pumed ac yna'r chweched niwrnod.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C: “Byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth ac yn edrych ymlaen at weld y dystiolaeth glinigol sydd wedi llywio’r penderfyniad hwn”.

Fe fydd Llywodraeth Cymru'n cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau presennol ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.