Proses taliad gadael i gyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Penfro yn 'fethiant difrifol'
Roedd y broses a arweiniodd at dalu swm ymadael o £95,000 i gyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Penfro yn "fethiant difrifol mewn trefniadau llywodraethu", yn ôl adroddiad gan archwilwyr.
Gadawodd Ian Westley ei rôl fel Prif Weithredwr y Cyngor ar 30 Tachwedd 2020 dan delerau Cytundeb Setlo.
Roedd Mr Westley wedi bod yn y rôl ers 2015.
Mae'r adroddiad gan Archwilio Cymru yn sôn am fethiant ar ran Cyngor Sir Penfro i fynd i'r afael ag anawsterau perthnasau rhwng aelodau a swyddogion, a diffyg eglurder am eu roliau a'u dyletswyddau.
Mae Cyngor Sir Penfro yn dweud bod "cynnydd sylweddol" eisoes wedi ei gyflawni ond bod mwy o waith i'w wneud.
Dywed yr adroddiad bod y broses a ddilynwyd gan y cyngor hefyd yn cynnwys enghreifftiau o swyddogion yn methu cwblhau eu dyletswyddau proffesiynol, diystyru cyngor cyfreithiol allanol a methiant i ddilyn polisïau a dulliau mewnol.
Mae'r adroddiad hefyd yn beirniadu "prosesau penderfynu gwael ac anhryloyw" a methiant i gadw cofnod o'r rhesymau dros benderfyniadau.
Dywed yr adroddiad bod gan Gyngor Sir Penfro "lawer o waith i'w wneud" i sicrhau bod ganddynt drefniadau llywodraethu cadarn yn eu lle.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro: "Mae Cyngor Sir Penfro yn croesawu’r adroddiad manwl gan Archwilio Cymru i’r cytundeb setliad gyda’i gyn Brif Weithredwr, ac rydym yn cydnabod difrifoldeb ei ganfyddiadau.
"Mae cynnydd sylweddol eisoes wedi’i wneud mewn llawer o’r meysydd a nodwyd yn adolygiad Archwilio Cymru o ddigwyddiadau dros flwyddyn yn ôl.
"Mae’r Cyngor yn cydnabod bod mwy i’w wneud o hyd."
Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei ystyried gan y Cyngor mewn cyfarfod ar 1 Chwefror.