
Dathlu'r Hen Galan gan obeithio am flwyddyn 'mwy rhwydd' i ddod
Blwyddyn Newydd Dda!
Dyna fydd trigolion pentref yn Sir Benfro yn ei ddymuno i'w gilydd ddydd Iau, wrth i bobl Cwm Gwaun ger Abergwaun groesawu'r Hen Galan.
Eleni, mae cysgod y pandemig yn dal i fod dros y cwm ac felly mae'r dathliadau yn wahanol i flwyddyn arferol.
Serch hynny, mae'r pentrefwyr yn falch fod unrhyw ddathliadau yn cael digwydd eleni wedi i'r Hen Galan diwethaf gael ei nodi dan gyfyngiadau llym y cyfnod clo.
Bob blwyddyn, mae pobl y cwm yn dathlu'r flwyddyn newydd ar 13 Ionawr gan eu bod yn dal i ddilyn hen Galendr Julian.
Cafodd y calendr hwnnw ei ddisodli yn 1752 gan y Calendr Gregoraidd ond mae trigolion yr ardal yn parhau i ddathlu yn ôl y calendr blaenorol.
Mae Bonni Davies yn un o olygyddion papur bro'r Llien Gwyn.
Mae Bonni wedi byw yng Nghwm Gwaun ers dros 50 mlynedd ac wedi gweld nifer o blant yn galw heibio i hel calennig ar hyd y blynyddoedd.
"Mae'n draddodiad hyfryd achos mae mor braf i weld y plant a ma' nhw gyd yn mor serchog a falch cael bod mas. Ma' nhw gyd yn ymwybodol o'r traddodiad ac yn falch o gadw'r traddodiad i fynd," meddai.
"Dwi'n credu bod ni yn cadw'r traddodiad hwn i fynd a ni'n lwcus dros ben bo ni'n byw mewn ardal sy' â traddodiadau bach neis fel hwnna."

'Cadw at y traddodiadau'
Mae Lilwen Mcallister wedi byw yng Nghwm Gwaun ar hyd ei hoes.
Yn un rhan o'r ddeuawd Lilwen a Gwenda, mae Lilwen a'i chwaer Gwenda Morgan wedi diddanu cenedlaethau yn y cwm.
I Lilwen, mae'r Hen Galan yn gyfle i groesawu'r flwyddyn newydd yng nghwmni teulu a ffrindiau.
"'Yn ni nawr ochr hon y Cwm ers blynydde nawr 'yn ni'n mynd lawr i Dafarn Bessie i gwrdd yn yr hwyr a wedyn ma' pob un yn 'neud ei barti pys fel o'dd hi 'sblynydde maith yn ôl," meddai.
"So ni'n newid lot yn Cwm Gwaun chimod, 'yn ni'n cadw at y traddodiadau a 'yn ni'n cael noson hwylus a wedyn ma' Gwenda'n chwaer ma’ hi'n dod lan a'i keyboard ac yn y blaen a wedyn pob un yn joino 'da'i gily' ac ambell i stori wedyn yng nghymysg y canu. So byddwn ni'n misso hwnna 'leni hefyd."

'Cyfarfod yn y drws'
Fel rhan o ddathliadau arferol, mae plant yn mynd o ddrws i ddrws yn canu ac yn hel calennig, gan dderbyn losin neu arian fel arfer am eu cyfarchion cerddorol.
Bu'n rhaid addasu dathliadau'r llynedd oherwydd cyfyngiadau'r cyfnod clo, ac yn ôl Bonni, ni fydd pethau'n dychwelyd i'r arfer eleni.
"Blwyddyn diwetha', achos bo ni yn y cyfnod clo daeth ddim plant rownd i ganu o gwbwl. Ond buodd ddim y diwrnod yn ddiflas i gyd achos 'nath lot o'r plant recordo'u hunain yn canu a hala rhai i ni wedyn ar Messenger," meddai.
"Ond 'leni nawr, mae'n debyg bod plant yn mynd i ddod rownd. Falle ddim gymaint â'r arfer ond ma' nhw mynd i ddod rownd. Ond bo ni ddim yn gwahodd neb mewn i'r tŷ 'leni nawr, bo ni jyst yn cyfarfod nhw yn y drws ac yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda iddyn nhw."
Dywed Lilwen Mcallister na fydd y danteithion y byddai fel arfer yn eu cynnig i'r plant yn medru bod yr un fath â'r arfer.
"Mae ofn mai crisps a rhyw bethau fel 'na fydd 'di cael eu paco'n barod fydd gyda ni 'leni."
Ond o edrych tua'r flwyddyn newydd, mae Lilwen yn gobeithio am flwyddyn newydd "rhwydd" wedi bron i ddwy o flynedd o gyfyngiadau amrywiol ar gwrdd ag eraill.
"Dwi'n gweddio bydd unrhyw un yn galled dod i'r tŷ a bydd ddim ishe ni chimod i watcho bo ni'n gwsigo mwgwd ac yn y blaen a bod bywyd ni mwy rhwydd, ondyfe?"
Prif Lun: Rhai o blant Cwm Gwaun yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda yn 2009. (Llun: Bonni Davies)