Y Tywysog Andrew i wynebu achos llys sifil am droseddau rhyw honedig

Fe fydd y Tywysog Andrew yn wynebu achos llys sifil yn yr UDA am droseddau rhyw honedig, ar ôl i farnwr wrthod cais gan ei gyfreithwyr i atal yr achos yn ei erbyn.
Cafodd yr achos ei agor yn erbyn mab y Frenhines gan Victoria Giuffre, sydd wedi cyhuddo Dug Efrog o'i cham-drin yn rhywiol.
Mae'r Dug wedi gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn o'r dechrau.
Yn ôl Mrs Giuffre, cafodd ei masnachu gan Jeffrey Epstein i gael rhyw gyda'r tywysog pan oedd hi'n 17 oed.
Roedd cyfreithwyr Tywysog Andrew wedi gofyn i'r achos cael ei ollwng gan fod cytundeb cyfreithiol wedi bod rhwng Mrs Giuffre a Mr Epstein yn 2009.
Yn ôl Sky News, fe wnaeth y barnwr Lewis Kaplan wrthod y cais gan dîm cyfreithiol y tywysog ar ôl clywed tystiolaeth gan y ddwy ochr.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Paul Kagame