Newyddion S4C

'Angen ailddechrau creu ynni niwclear ar Ynys Môn'

ITV Cymru 12/01/2022

'Angen ailddechrau creu ynni niwclear ar Ynys Môn'

Mae angen ailddechrau creu ynni niwclear ar Ynys Môn er mwyn cwrdd â’r galw am ynni, yn ôl arweinydd y cyngor, Llinos Medi.

Fe ddaw ei sylwadau er gwaethaf gwrthwynebiad Plaid Cymru, y blaid mae’n rhan ohoni, i ynni niwclear.

“Rydan ni ei angen o - mae’n rhaid inni ei gael o. Rydan ni angen sicrwydd trydan yn fwy nag erioed wrth ddeall rŵan bod costau’n mynd i fyny, a phobl yn methu fforddio i wresogi a chadw’r golau ymlaen mewn tai.”

“Os fasa Plaid Cymru mewn llywodraeth, dyna’r drafodaeth fyddai’n rhaid i Blaid Cymru ei chael.

“Fy nyletswydd i ers dod yn Arweinydd y cyngor yma ydi gwneud y gorau i Ynys Môn. Dw i’n aelod o Blaid Cymru, a dwi’n ffyddlon i Blaid Cymru, ond dwi hefyd yn gwybod beth ydy fy nyletswydd i i’r ynys yma. Fyddwn i ddim yn aberthu’r blaid, a fyswn i ddim yn aberthu pobl Ynys Môn - beth fyddwn i’n ei ddisgwyl ydi trafodaeth aeddfed i ni allu dod at ganlyniad call.

“‘Da ni’n prysur agosáu at y golau’n mynd i ffwrdd,” meddai.

Trydan

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Y Byd yn ei Le, fy ddywedodd Llinos Medi ei bod hi’n gefnogol i gynlluniau Rolls Royce i godi adweithyddion niwclear bychain yng ngogledd Cymru.

“Fedrwn ni ddim bod mewn sefyllfa lle mae trydan yn mynd i ffwrdd. Rydan ni’n prysur redeg allan o gynhyrchu trydan, ‘da ni’n prysur agosáu at y golau’n mynd i ffwrdd, a dydw i ddim yn meddwl bod cymdeithas yn deall pa mor agos ydan ni at hynny.”

Mae cwmni Rolls Royce yn bwriadu codi 16 o adweithyddion niwclear bychain newydd yn y Deyrnas Unedig, fyddai’n dechrau cynhyrchu trydan yn y 2030au.

Fe ddywedodd y cwmni fod safle Wylfa yn ‘berffaith’ ar gyfer eu cynlluniau, gan nodi fod Atomfa Trawsfynydd yn safle arall sy’n cael ei ystyried. 

Nod Rolls Royce yw creu 40,000 o swyddi yn y Deyrnas Unedig erbyn 2050, ac maen nhw wedi derbyn buddsoddiad o £210 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu ariannu’r prosiect. Mae gwladwriaeth Catar wedi buddsoddi £85 miliwn hefyd. 

Gwrth-niwclear

Ond ‘dyw’r cynlluniau ddim at ddant pawb. Yn ôl Meilyr Tomos, o’r sefydliad gwrth-niwclear Pobl Atal Wylfa B, mae pobl yn ardal Trawsfynydd yn poeni am gynlluniau Rolls Royce.

“Mae ‘na bryderon lleol. Mae pobl yn pryderu am niferoedd canser yn lleol."

Dywedodd Mr Tomos, bod y gwastraff sy’n dod yn sgil cynhyrchu ynni niwclear yn rhywbeth arall sy’n ei boeni. 

“Am etifeddiaeth ‘de, i ystyried ei rhoi i dy blant, neu i blant dy blant dy blant dy blant. Rhywbeth sydd yn farwol am 10,000 o flynyddoedd. Mae o’n chwalu ‘mrêns i i hyd yn oed meddwl amdano fo.

“Dwi wastad wedi teimlo bod y sgwrs aeddfed honno am wastraff efo ni wnaeth fyw yng nghysgod Atomfa Trawsfynydd pan oedd hi’n cynhyrchu - y sgwrs dryloyw gall honno heb gael ei gwneud erioed, a mae hynny’n rhywbeth sy’n dal i ’mhryderu i.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.