Newyddion S4C

'Dros 100' o staff Rhif 10 wedi'u gwahodd i ddiodydd yn ystod y cyfnod clo

ITV Cymru 10/01/2022
Boris Johnson - Chatham House Flickr

Cafodd staff yn Downing Street eu gwahodd i barti diodydd yng ngardd Rhif 10 yn ystod cyfnod clo cenedlaethol.

Dywedodd y gwahoddiad y byddai'n gyfle "i wneud y mwyaf o'r tywydd braf".

Mae e-bost sydd wedi ei rannu gydag ITV News yn cynnig tystiolaeth o barti ar 20 Mai, 2020.

Cafodd yr e-bost ei anfon gan Brif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog i fwy na 100 o weithwyr yn Rhif 10, gan gynnwys ymgynghorwyr ac awduron areithiau'r Prif Weinidog.

Mae ymchwiliad i honiadau o bartïon eraill yn Downing Street eisoes ar waith, a dywedodd llefarydd wrth ITV News na fydden nhw'n gwneud sylw tra bo'r ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.

Darllenwch fwy ar y stori yma.

Llun: Chatham House (drwy Flickr)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.