Teyrngedau i'r ymgyrchydd gwrth-apartheid Hanif Bhamjee
10/01/2022
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i'r ymgyrchydd gwrth-apartheid Hanif Bhamjee sydd wedi marw.
Roedd Mr Bhamjee yn byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Bort Elizabeth, De Affrica, yn ymgyrchydd ac yn drefnydd y Mudiad Gwrth-Apartheid ac yn Ysgrifennydd Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru rhwng 1981 a 1994.
Daeth i Gymru yn 1972, lle'r oedd y Mudiad Gwrth-Apartheid eisoes yn weithredol yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe.
Yn ystod ei gyfnod fel ysgrifennydd, llwyddodd i ehangu'r mudiad i rwydwaith o 22 o ganghennau ledled Cymru.
Wrth dalu teyrnged, disgrifiodd yr Arglwydd Peter Hain Mr Bhamjee fel "arwr gwrth-apartheid".
Llun: Mick Antoniw AS