Newyddion S4C

Iran yn wynebu ‘canlyniadau difrifol’ os fydd ymosodiadau ar Americaniaid

10/01/2022
Llun o Qassem Soleimani gan Wici Commons
Llun o Qassem Soleimani gan Wici Commons

Mae’r Tŷ Gwyn wedi rhybuddio y bydd Iran yn wynebu “canlyniadau difrifol” os yw'r wlad yn ymosod ar Americaniaid.

Daeth y rhybudd ddydd Sul ar ôl i Tehran osod sancsiynau wedi i luoedd America ladd y Cadfridog Qassem Soleimani yn 2020 mewn streic drôn.

Dywedodd Jake Sullivan, Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol y Tŷ Gwyn, fod sancsiynau Iran ddydd Sadwrn wedi dod wrth i filwyr Iran barhau i ymosod ar filwyr Americanaidd yn y Dwyrain Canol.

"Byddwn yn gweithio gyda'n cynghreiriaid a'n partneriaid i atal ac ymateb i unrhyw ymosodiadau a wneir gan Iran," meddai Sullivan mewn datganiad.

"Pe bai Iran yn ymosod ar unrhyw un o'n dinasyddion, gan gynnwys unrhyw un o'r 52 o bobl a enwyd ddoe, bydd y wlad yn wynebu canlyniadau difrifol."

Mwy am y stori yma gan asiantaeth newyddion Reuters.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.