Grŵp o artistiaid anabl yn creu celf allan o sbwriel ym Mhowys

Grŵp o artistiaid anabl yn creu celf allan o sbwriel ym Mhowys
Mae grŵp celf sydd yn cael ei rhedeg gan artistiaid anabl wedi creu arddangosfa allan o sbwriel casglwyd o ochr y ffyrdd yng ngogledd Powys.
Fe gasglodd aelodau grŵp Celf-Able 30 bagiau o sbwriel ar draws Machynlleth, Y Drenewydd, y Trallwng, Llanfair Caereinion a Llanidloes ar gyfer y prosiect '‘Oriel Sbwriel / Litter Arty'.
Bu dros hanner cant o bobl yn cymryd rhan yn y prosiect gyda'r grŵp, sydd yn gweithio i gyfleu themâu yn ymwneud ag anabledd trwy wahanol fathau o gelf megis paentio, cerflunio a pherfformio.
Dywedodd cadeirydd Celf-Able, Sue Patch, wnaeth y broses o gasglu'r sbwriel dynnu sylw nifer o bobl.
"Roedd casglu’r sbwriel yn dipyn o hwyl - roedd yn gyfle da i bobl gwrdd y tu allan," meddai.
"Roedd gan y cyhoedd yn y gwahanol leoedd ddiddordeb yn yr hyn yr oeddem yn ei wneud. Diolchodd llawer i ni a dweud ein bod yn gwneud gwaith da."
"Wrth i'r cyfan fynd yn ôl i dŷ Amanda (cydlynydd y prosiect) ar gyfer glanhau a diheintio, wn i ddim beth oedd barn ei chymdogion wrth iddyn nhw weld ni’n dwy yn eistedd yn ei gardd yn golchi sbwriel a'i hongian i sychu!”
'Creadigol iawn'
Cafodd y gwastraff, oedd yn cynnwys poteli plastig a chaniau cwrw, pacedi o greision a bagiau siopa, ei ddiheintio cyn i aelodau'r grŵp ei droi mewn i ddarnau o gelf.
Nod y prosiect oedd tynnu sylw at sut mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar gymunedau lleol, gan gyfleu'r thema o 'Yr Elfennau".
Cafodd y prosiect ei ariannu gan Sefydliad Teulu Ashley a bu Celf-Able yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, elusen Siawns Teg ac artistiaid lleol Terri Sweeney a Jo Munton i roi'r arddangosfa at ei gilydd.
“Roedd yn llawer o waith ac yn brofiad eithaf dwys i gadw at yr amserlen, ond roedd yn greadigol iawn ac yn hwyl," meddai Amanda Wells, cydlynydd y prosiect.
Roedd gweld y gweithiau celf yn dod at ei gilydd yn raddol wrth i ni ychwanegu gwahanol elfennau artistig yn hynod ddiddorol.
"Ar y dechrau, roedd yn edrych fel llwyth o sbwriel wedi'u styffylu i'r byrddau ond wrth i ni adeiladu'r delweddau i fyny fe wnaethon nhw siapio, ac mae'r canlyniad yn fendigedig."
Bydd y darnau yn cael eu harddangos yn yr Institiwt yn Llanfair Caereinion tan 2 Chwefror cyn mynd ar daith o gwmpas Llanidloes, Machynlleth a'r Drenewydd.
Yn dilyn eu taith o gwmpas Powys, bydd y darnau yn cael eu harddangos yn barhaol yn neuadd y dref yn y Trallwng.
“Dw i wedi dysgu cymaint o ffyrdd newydd o ddefnyddio caniau”, meddai Sue Patch.
“Roedd yr holl brofiad yn gadarnhaol iawn ac roedd pobl yn sicr yn greadigol iawn. Rwy'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gynhyrchu ac yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau archwilio pob darn."