Rhybudd o lifogydd ar draws gogledd Cymru
08/01/2022
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd o lifogydd mewn chwe ardal yng ngogledd Cymru yn dilyn glaw trwm.
Mae’r asiantaeth yn rhybuddio pobl yn ardaloedd dalgylch Efyrnwy, Uwch Hafren, Dyfi, Conwy, Glaslyn a Dwyryd a’r Mawddach a Wnion.
Daw’r rhybuddion yn dilyn cyfnod o law trwm ac eira mewn mannau o Gymru.
Mae manylion am y rhybuddion i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.