Newyddion S4C

Honiad newydd gan Dominic Cummings o barti anghyfreithlon yn Rhif 10

The Independent 08/01/2022
Rhif 10 Downing Street

Mae cyn-ymgynghorydd Prif Weinidog y DU, Dominic Cummings, wedi gwneud honiad newydd o barti yn cael ei chynnal yn Rhif 10 Downing Street yn erbyn rheolau Covid-19. 

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i mewn i'r partïon a ddigwyddodd adeg y Nadolig 2020, pryd oedd rheolau yn gwahardd cymysgu cymdeithasol. 

Yn ôl The Independent, dywedodd Mr Cummings y dylid ehangu'r ymchwiliad i gynnwys digwyddiad yng ngardd Rhif 10 ar 20 Mai, 2020. 

Ar y pryd roedd cyfyngiadau yn dechrau llacio ond doedd dim hawl i bobl cymysgu gyda mwy nag un person. 

Wrth ysgrifennu ar ei flog, dywedodd Mr Cummings fe wnaeth gweithwyr rhannu diodydd yn yr ardd mewn digwyddiad oedd "yn erbyn y rheolau."

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.