Teyrnged teulu i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Maentwrog
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Maentwrog yng Ngwynedd ddydd Mercher wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A487 y tu allan i dafarn yr Oakley Arms ychydig cyn 11:30.
Bu farw Digby Eade, 48, o Flaenau Ffestiniog yn y fan a'r lle.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod Mr Eade yn dad a mab ymroddedig oedd hapusaf pan roedd yn helpu eraill.
Symudodd i Gymru ar ôl cyfnod yn gweithio yn nociau Portsmouth, gan ymgartrefu yng Ngwynedd ar ôl priodi.
Ychwanegodd ei deulu fod "cartref ei galon yng Nghymru, lle'r oedd yn caru bod yn rhan o gymuned glos fydd yn dlotach o achos ei absenoldeb."
Dywedodd Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd: "Hoffem gynnig ein cydymdeimladau dwysaf unwaith eto i deulu Digby ar yr amser anodd yma.
"Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoedd sydd hyd yn hyn wedi cynnig gwybodaeth, ac fe hoffwn apelio eto ar unrhyw un oedd wedi gweld y digwyddiad ac sydd heb gysylltu gyda ni eto, neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyd ffordd yr A487 rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog ac sydd gyda dash cam i gysylltu gyda swyddogion yr Uned Plismona'r Ffyrdd ar y we neu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio cyfeirnod B001932."