Cynnydd ym mhrisiau tai Cymru’n parhau i fod yr uchaf yn y DU

Golwg 360 07/01/2022
S4C

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, fe wnaeth prisiau tai yng Nghymru gynyddu 14.5% rhwng Rhagfyr 2020 a Rhagfyr 2021. 

Ar gyfartaledd, roedd tŷ yng Nghymru’n costio £205,579 ym mis Rhagfyr y llynedd, meddai'r ystadegau sydd wedi eu cyhoeddi gan yr Halifax.

Mae Golwg360 yn adrodd bod y cynnydd mewn prisiau yn parhau i fod yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw ardal neu wlad arall yn y Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl i’r twf mewn prisiau arafu’n “sylweddol” dros y flwyddyn hon, meddai’r adroddiad.

Darllenwch y stori'n llaw gan Golwg360. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.