Covid-19: Cofnodi 21 marwolaeth a 7,915 achos newydd
Mae 7,915 yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd 21 o farwolaethau newydd eu cofnodi ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod yn 2,324.6.
Bellach mae 706,873 achos positif wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig, gyda 6,626 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint wedi eu cofnodi yng Nghymru.
Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Blaenau Gwent (3,084.7), Rhondda Cynon Taf (2,981.0), Merthyr Tudful (2932.4).
Hyd yma mae 2,492,287 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,314,745 wedi derbyn dau ddos, ac mae 51,847 o bobl wedi derbyn 'hwblyn', neu ddos ychwanegol ar ôl eu dosau cyntaf.