Awstralia yn gwrthod honiadau bod Djokovic wedi'i 'gaethiwo'

Mae un o weinidogion Llywodraeth Awstralia wedi gwrthod honiadau bod Novak Djokovic yn cael ei "gaethwio" yn Melbourne.
Dywedodd gweinidog materion cartref Awstralia fod y chwaraewr tennis yn rhydd i adael y wlad pryd bynnag mae'n dewis.
Mae Djokovic wedi ei gadw mewn gwesty mewnfudo tan ddydd Llun pan fydd yn cyflwyno her gyfreithiol yn y llys i benderfyniad y llywodraeth ffederal ddydd Iau i ganslo ei fisa.
Dywedodd Karen Andrews ddydd Gwener fod chwaraewyr a swyddogion eraill sydd eisoes wedi cael cyrraedd y wlad ar eithriad brechlyn fel y cafodd Djokovic eisoes yn cael eu hymchwilio gan swyddogion.
Fe wrthododd Ms Andrews honiadau gan deulu'r seren tennis fod llywodraeth y wlad yn ei "gaethiwo", yn ôl The Guardian.
Mwy ar y stori yma.