'Gwahaniaethau mawr' yn yr UDA flwyddyn ers ymosodiadau'r Capitol

Newyddion S4C 06/01/2022

'Gwahaniaethau mawr' yn yr UDA flwyddyn ers ymosodiadau'r Capitol

Mae hi'n flwyddyn ers i Unol Daleithiau'r America, a'r byd, gael ei siglo gan brotestiadau treisgar yn adeilad Capitol Hill yn Washington DC.

Y chweched o Ionawr y llynedd oedd y diwrnod lle'r oedd disgwyl cadarnhad gan y Gyngres yn Washington o fuddugoliaeth Joe Biden yn etholiad arlywyddol y wlad.

Ond roedd miliynau o gefnogwyr Donald Trump yn gwrthod derbyn y canlyniad - gan fynnu ei fod yn dwyll.

Un neges oedd gan Donald Trump wrth annerch ei gefnogwyr, sef i gerdded i lawr i'r Capitol.

Roedd golygfeydd o anhrefn wrth i nifer o'i gefnogwyr geisio mynd mewn i'r adeilad.

Bu farw pump o bobl a chafodd dros 140 o swyddogion heddlu eu hanafu.

Am y tro cyntaf yn hanes yr UDA, doedd na ddim modd trosglwyddo pŵer heddychlon yn yr adeilad yma.

Image
Ann Griffith
Mae Ann Griffith yn byw yn agos i adeilad Capitol Hill yn Washington DC.

'Mor ffyrnig'

Mae Ann Griffith yn dod o Aberystwyth yn wreiddiol. Bellach mae hi'n byw yn agos i’r Capitol yn Washington, ac mae hi nawr yn ddinesydd Americanaidd.

Fe wnaeth Ann brotestio sawl tro yn erbyn Donald Trump.

"Mae 'na wahaniaethau mawr yn y wlad yma rhwng bywyd yn y dinasoedd a'r bywyd gwledig," meddai.

Mae'n cofio'n glir y diwrnod tyngedfennol hwnnw flwyddyn yn ôl.

"Odda ni gyd wedi cael ein rhybuddio gan y Maer i aros adref ar y chweched, ac i neud siŵr bo gennom ni'r pethau angenrheidiol yn y tŷ am ddeuddydd neu dri.

"Ond oedd neb o honnom ni di disgwyl bysai rywbeth mor ffyrnig â hyn yn digwydd, a bysen nhw'n torri fewn ac yn brifo ac yn lladd pobl."

Image
Eric Braden
Mae gan Eric Braden ffrindiau sydd bellach yn y carchar am eu rhan yn yr ymosodiadau.

'Rhyddid wedi ei gymryd'

Flwyddyn yn ddiweddarach ac mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu bod 70% o Weriniaethwyr yn parhau i gredu bod Donald Trump wedi ennill yr etholiad.

Eric Braden yw pennaeth y Southern Patriot Council yn Texas.

Mae ganddo ffrindiau sydd bellach yn y carchar am eu rhan yn yr ymosodiad ar Capitol Hill.

"Y gwir yw rhwng etholiad oedd yn amlwg yn llygredig, a'r gormes a ddaeth yn sgil yr holl nonsens Covid rydym wedi delio ag e mae'n gwlad wedi ei dinistrio yn y bôn, ac mae'n rhyddid wedi ei gymryd wrthom o flaen ein llygaid," dywedodd.

Flwyddyn ers y golygfeydd rhyfeddol yn Washington, mae'r ymchwiliad i'r ymosodiad ar ddemocratiaeth America yn parhau.  

Ond mae’r gwahaniaethau a arweiniodd at y trais hefyd yn parhau mewn gwlad sydd yn bell o fod yn unedig.

Prif Lun: Gage Skidmore

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.