£18m o fuddsoddiad newydd i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

07/01/2022
Ysgol angehnion ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £18m o gyllid newydd fydd ar gael i gryfhau'r cymorth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Dywedodd y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, bydd yr arian yn helpu dysgwyr i oresgyn effeithiau'r pandemig gan hefyd darparu cymorth i ysgolion a mannau dysgu wrth iddynt drawsnewid i system newydd ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol. 

Bydd £10m o'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i gryfhau'r cymorth presennol sydd ar gael, megis cymorth dysgu dwys a therapi lleferydd ac iaith. 

Gall yr arian yma hefyd cael ei ddefnyddio er mwyn darparu adnoddau ychwanegol i leddfu effeithiau'r pandemig fel cymorth iechyd meddwl a chymorth wedi’i deilwra i helpu â phresenoldeb.

Bydd yr £8m yn weddill o'r buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i helpu mannau dysgu i symud plant i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd. 

Mae'r drefn newydd yn cael ei gyhoeddi dros y tair blynedd nesaf gan anelu i gwrdd ag anghenion dysgwyr yn well trwy gynlluniau datblygu unigol newydd. 

Dywedodd Jeremy Miles wrth gyhoeddi'r buddsoddiad newydd: “Rydym yn benderfynol o ddarparu system addysg gwbl gynhwysol yng Nghymru – system lle mae anghenion ychwanegol yn cael eu nodi’n gynnar a’u diwallu’n gyflym."

“Mae ysgolion a meithrinfeydd eisoes yn gwneud gwaith gwych o gefnogi eu dysgwyr, ond rydym yn gwybod bod angen rhagor o adnoddau arnynt i wneud hyn."

"Dyna pam rwy’n cyhoeddi’r buddsoddiad ychwanegol hwn er mwyn helpu dysgwyr i oresgyn effeithiau’r pandemig ac i sicrhau cydraddoldeb iddynt o ran eu haddysg, eu cyfleoedd gwaith, a’u hiechyd a’u llesiant.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.