Categorïau ieithyddol newydd i ysgolion Cymru o fis Medi ymlaen
Categorïau ieithyddol newydd i ysgolion Cymru o fis Medi ymlaen
Fe dydd holl ysgolion Cymru yn cael eu rhoi mewn categorïau ieithyddol newydd o fis Medi ymlaen yn ôl y llywodraeth.
Yng Ngwlad y Basg, mae yna chwyldro wedi bod o ran byd addysg - sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y nifer o siaradwyr y Fasgeg.
Dyna'r patrwm y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei efelychu wrth anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif - ac mae'n golygu newid enfawr yn y ffordd y bydd ysgolion yn cael eu categoreiddio o fis Medi eleni.
Fe fydd yna dair categori newydd i ysgolion cynradd yng Nghymru, sef:
Categori 1 - Ysgolion Cyfrwng Saesneg
Categori 2 - Ysgolion Dwy iaith - (ble fydd o leiaf 50% o weithgareddau'r disgybl yn Gymraeg)
Categori 3 - Ysgolion Cyfrwng Cymraeg
Yn y sector uwchradd, fe fydd y categorïau’n debyg i’r cynradd. Y nod yw symleiddio'r drefn a chynnig mwy o ddewis medd y llywodraeth.
Yn ôl gweinidogion maen nhw wedi ymrwymo i gyflwyno bil addysg cyfrwng Cymraeg newydd fel rhan o raglen lywodraethu.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles wrth raglen Newyddion S4C fod y categoreiddio newydd yn symlach yn y pen draw:
"Mae e'n golygu na fydd unrhyw ysgol yn darparu llai o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n annog ysgolion i symud i gynyddu fwy, a hefyd i edrych ar nid yn unig ar ddarpariaeth yn y stafell ddosbarth, ond y ddarpariaeth yn y Gymraeg yn allgyrsiol hefyd."
Yn ôl cefnogwyr y newidiadau, mae'n rhaid cyflwyno newid sylweddol os am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
Ond dywedodd Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Newyddion S4C fod pryderon yn parhau am y gyfundrefn newydd:
"Ma' pryderon gyda ni bod y categori o dan yna o ysgolion Cymraeg yn dal yn lot yn rhy eang, ond da ni hefyd yn falch o weld bod y llywodraeth am annog pob ysgol i gynyddu eu darpariaeth nhw o addysg cyfrwng Cymraeg.
"Ond er mwyn i ni allu gwneud hynny mae angen cymorth a chyllid penodol ar bob ysgol a phob awdurdod lleol, er mwyn cynllunio tuag at symud pob ysgol i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg dros amser."