Staff graeanu ffyrdd Sir Gaerfyrddin yn dechrau streicio
Fe fydd staff graeanu ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin yn dechrau ar ddau ddiwrnod o streicio ddydd Mercher.
Dyma fydd y cyntaf o dri chyfnod o weithredu diwydiannol sydd wedi eu cynllunio gan staff cynnal a chadw'r ffyrdd yn y sir yn ystod mis Ionawr.
Daw'r gweithredu diwydiannol yn dilyn anghytuno rhwng undebau llafur a'r Cyngor Sir am gyfraddau cyflog a chytundebau newydd i staff sy'n graeanu dros y gaeaf.
Mae undebau llafur wedi gofyn i'w haelodau beidio â chwblhau gwaith y tu hwnt i'w horiau arferol ar Ionawr 5 a 6.
Mae dau gyfnod pellach o weithredu diwydiannol wedi eu cynllunio rhwng 17 a 21 a 24 a 28 Ionawr.
Dywed undeb GMB fod gan Sir Gaerfyrddin "rhai o'r termau ac amodau gwaethaf" ar gyfer staff graeanu, gan eu bod yn gorfod defnyddio yswiriant eu hunain wrth weithio ac nad ydynt yn derbyn tâl cadw.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gwrthod sylwadau GMB am y cytundeb sydd ar waith dros fisoedd y gaeaf ac maen nhw'n dweud eu bod wedi cyflwyno cynnig newydd sy'n cynnwys tâl cadw i weithwyr am ymrwymo i'r rota drwy'r gaeaf.
Yn ôl Peter Hill, Trefnydd Rhanbarthol GMB: "Mae'n warthus fod awdurdod lleol yn gwrthod dilyn cytundeb sydd wedi ei arwyddo, ac yna'n dod â thrafodaethau i ben oedd fod i ddatrys y problemau.
"Nid oes unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru yn ymddwyn yn y ffordd hon".
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Daeth y Cyngor i gytundeb ffurfiol gyda'r undebau llafur yn 2020 ynghylch dyletswyddau cynnal a chadw'r priffyrdd dros y gaeaf. Roedd y cytundeb yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr ein gweithwyr ac yn rhoi pecyn tâl iddynt sydd gyda'r uchaf yng Nghymru.
“Mae'r Cyngor wedi cadw at delerau ac amodau'r cytundeb a drefnwyd, ac mae bob amser wedi mynd ati i helpu ein gweithwyr i ddarparu rhwydwaith ffyrdd diogel i'n cymunedau, busnesau, a gwasanaethau brys, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol."
Daw hyn wrth i'r Swyddfa Dywydd rybuddio am dywydd oerach yn ystod y dyddiau nesaf.
Llun: Cyngor Sir Gaerfyrddin