Newyddion S4C

Covid-19: Cofnodi 22,317 achos newydd ac wyth marwolaeth yn rhagor dros 48 awr

04/01/2022
AstraZeneca

Mae 22,317 o achosion pellach o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru dros y 48 awr diwethaf hyd at 09:00 bore dydd Sul. 

Yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru dyma'r ffigyrau uchaf i'w cofnodi ers dechrau'r pandemig.

Cafodd wyth marwolaeth yn rhagor eu cofnodi yn ystod y cyfnod. 

Bellach mae 9,347 o achosion o'r amrywiolyn Omicron wedi eu cofnodi yng Nghymru, gyda'r mwyafrif (2,654) yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod wedi cynyddu unwaith eto i 1,986.5.

Mae 668,473 achos positif a 6,589 o farwolaethau wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig erbyn hyn.

Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf (2,638.6), Merthyr Tudful (2,557.8) a Blaenau Gwent (2,503.3)

Bellach does dim ardal sydd â chyfradd o achosion yn llai na 1,300 ymhob 100,000.

Roedd y cyfraddau isaf yn Sir Fynwy (1,325.7), Ynys Môn (1,386.3) a Phowys (1,436.9).

Hyd yma mae 2,491,285 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,304,792 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,648,826 o bobl wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu. 

Gallwch ddod o hyd i'r ffigyrau diweddaraf ar nifer yr achosion, marwolaethau a brechiadau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.