Dyn wedi'i hedfan i'r ysbyty ag anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych
Mae dyn wedi'i hedfan i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad beic modur yn Sir Ddinbych.
Digwyddodd y ddamwain ar ffordd droellog yr A525, ar fwlch Nant y Garth rhwng Llysfasi a Llandegla prynhawn ddydd Llun.
Cafodd dyn yn ei 20au oedd yn reidio'r beic ei hedfan i'r ysbyty yn Stoke-on-Trent gan ambiwlans awyr.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am dystion, neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam, i gysylltu â'r llu.