Nifer o fudwyr a cheiswyr lloches yn croesi'r Sianel wedi treblu

Mae'r nifer o fudwyr a cheiswyr lloches a groesodd y Sianel rhwng y Deyrnas Unedig a thir mawr Ewrop wedi treblu yn ystod 2021 i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Yn ôl Sky News, fe wnaeth 28,300 o bobl, y nifer fwyaf erioed, gyrraedd arfordir y DU o gyfandir Ewrop ar ôl gwneud y daith beryglus ar draws y môr.
Mae Llywodraeth y DU wedi addo sicrhau miliynau o bunnau i awdurdodau Ffrengig i geisio lleihau'r nifer o bobl sy'n llwyddo i groesi.
Mae'r Llywodraeth hefyd yn bwriadu cyhoeddi cynllun mewnfudo newydd a fydd yn gwneud cyrraedd y DU heb ganiatâd yn drosedd.
Yn ôl elusennau ni fydd y gyfraith newydd yn datrys y broblem, ac felly y dylid ei gwneud yn haws i bobl gyrraedd y DU yn gyfreithlon.
Darllenwch mwy yma.