
Cynllun cynhyrchu ynni yn Eryri yn mynd o nerth i nerth

Cynllun cynhyrchu ynni yn Eryri yn mynd o nerth i nerth
Mae cynllun ynni yn Eryri wedi cyrraedd carreg filltir bwysig wrth i’r fenter gynhyrchu 20 miliwn o oriau cilowat o drydan ers ei sefydlu yn 2013.
Mae hynny'n ddigon i bweru 5,300 o gartrefi am flwyddyn - neu wneud 1.3 triliwn darn o dost.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wyth generadur hydro yn Eryri, i gyd yn defnyddio grym dŵr sy’n llifo ynddynt i droi tyrbeini i greu trydan.
Mae'r cynllun yn arbed 5,600 tunnell o garbon wrth gynhyrchu egni cynaliadwy, sydd gyfwerth â thua 1.2 miliwn o goed.
Nid yn unig mae system Hydro Eryri yn cynhyrchu egni ar gyfer safleoedd yr Ymddiriedolaeth, ond mae unrhyw drydan dros ben yn cael ei werthu yn ôl i'r grid a'r elw yn ariannu prosiectau cadwraethol lleol.
'Buddion sylweddol'
Mae'r generadur mwyaf wedi'i leoli ar Fferm Hafod y Llan yn Nant Gwynant ger Beddgelert.
Dywedodd rheolwr y fferm, Arwyn Owen: "Mae'n glawiad ni fan hyn yn 100 modfedd y flwyddyn ac wedyn mae'n serth iawn - a dyna mae rhywun eisiau i hydro.
“Felly mae o'n lle gwych i gynhyrchu ynni adnewyddol.

“O ran y gymuned leol a ni fel ffarm, mae 'di dod a buddion sylweddol.
“Yn amlwg mae'n ffordd arall o arallgyfeirio. Y peth mawr i mi hefyd ydy bod rhywun yn gwarchod y tir ac mae rhywun yn edrych lle mae'r hydro wedi mynd mewn - a'r gwir ydy, toes neb dim callach."
"Mae 'na ddegau o filoedd o bobl yn cerdded ar hyd llwybr Watkin a tydyn nhw ddim yn gwybod lle mae'r hydro. 'Da chi'n cynhyrchu ynni a'n cynnal y gymdeithas ac eto does neb yn siwr lle mae'r hydro ac yn gweld dim hoel ar ei ol o."
Mae faint o drydan sy'n cael ei gynhyrchu gan y cynllun yn amrywio yn dibynnu ar lif y dŵr yn yr afonydd.
Dywedodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri, bod hyn yn roi cipolwg gwerthfawr o effeithiau newid hinsawdd ar ynni adnewyddadwy.
" 'Da ni'n gweld newidiadau dros amser ac wedyn am bod gennym ni dechnoleg fel hyn yn cadw cyfrifon manwl, bob chwarter awr, 'da ni'n mynd i weld mwy a mwy o'r dystiolaeth o'r newid yn digwydd," meddai.
Ychwanegodd Mr Edwards fod yr egni cynaliadwy cynhyrchwyd gan y generaduron hydro yn rhan sylweddol o gynlluniau'r Ymddiriedolaeth i fod yn ddi-garbon o fewn wyth mlynedd.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn bwriadu adeiladu ar lwyddiant y cynlluniau yn Hafod y Llan a mannau eraill wrth warchod y dirwedd a chynefinoedd yn Eryri ar yr un pryd.
"O'dd o'n sicr yn wers fawr i ni fod yn datblygu'r rhain ac mi fyddwn ni'n parhau i'w wneud o, o ran lleihau'r defnydd o garbon yn y lle cynta' ond hefyd wrth edrych ar dechnoleg newydd," dywedodd Mr Edwards.
"Bob tro fydd ganddon ni brosiect ar dir fferm neu adeilad fel plas, er enghraifft, 'da ni'n edrych ar gyfleoedd amgen sydd 'na i gynnal pŵer, i wresogi'r llefydd 'ma, a thrio cael cartrefi clyd i bobl fyw ynddyn nhw ond sydd ddim yn llosgi carbon."