
Cymru yn wynebu 'argyfwng digartrefedd'

Cymru yn wynebu 'argyfwng digartrefedd'
Mae Cymru mewn "argyfwng digartrefedd" yn ôl yr elusen Shelter Cymru.
Yn ôl ystadegau’r llywodraeth mae 60% yn fwy o bobl yn aros am gartref parhaol o gymharu â blwyddyn yn ôl.
Mae 6,935 o bobol yn byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd gan gynnwys 1,742 o blant.
Dywedodd Heddyr Gregory o Shelter Cymru: “Mae’r sefyllfa o ran llety dros dro ar hyn o bryd yng Nghymru yn eithaf difrifol…ac mae amodau llety dros dro ma' rhaid i ni gofio mae dros dro ma' rhain i fod ond yn anffodus mae pobol yn gaeth ynddyn nhw am fisoedd ac weithiau am flynyddoedd.
"Ar ddiwedd y dydd mae angen nawr lleihau y niferoedd o lety dros dro a chanolbwyntio ar adeiladu cartrefi parhaol i bobol."

Ychwanegodd bod digartrefedd wedi newid yn ystod y pandemig.
“Ni wedi gweld patrymau gwahanol o ran digartrefedd yn ystod y pandemig," meddai.
"Y sefyllfa o ran gweithio adre ac yn y blaen, ni wedi gweld cynnydd mewn pethau fel trais domestig, tor-perthynas, pobol ifanc yn cael eu taflu allan, oherwydd y straen mewn ffordd o effeithiau’r pandemig yn tynnu at dwy flynedd nawr.”
'Mor ddiolchgar'
Yn ddiweddar agorodd Cyngor Bro Morgannwg 11 o unedau yn Y Barri ar gyfer pobol sy’n aros am lety.
Chwe mis gymerodd y broses o ddechrau cynllunio hyd at orffen adeiladu.
Y nod yw cynnig llety unigol i’r digartref yn hytrach na bod rhaid iddyn nhw rannu gofod mewn hostel neu rywle tebyg.

Karen, 59 oed, yw un o’r trigolion. Collodd ei chartref 11 mis yn ôl.
Ar ôl cael cyfres o drawiadau ar y galon, bu'n rhaid iddi roi’r gorau i’w gwaith fel gyrrwr tacsi.
“Rwy' mor ddiolchgar i fod yma yn hytrach na lle’r oeddwn i cynt, lle byddwn i’n mynd ar y bws ac yn gweld pobol yn edrych ac yn dweud ‘Dyna’r jyncis, y digartref’," meddai.
"Dechreues i deimlo cywilydd am le o’n i’n byw ond nawr ry’n ni yma, dyw pobol ddim yn edrych arnon ni fel y digartref.
"Byddwn i’n mynd mor bell a dweud y dylai hwn fod yn llety parhaol yn hytrach na llety dros dro.”

Mae’r adborth ar gyfer y safle a’r galw am fwy o dai dros dro yn golygu bod y Fro yn edrych ar adeiladu mwy o safleoedd tebyg yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y cyngor.
Dywedodd Rob Thomas: “Cafodd y safle hwn ei ddatblygu mewn ardal lle’r oedd tai yn barod yn bwrpasol. Mae yn Y Barri am reswm, dyw e ddim mewn lle diarffordd.
"Ry’n ni’n edrych ar y tir sydd yn ein meddiant i weld a allwn ni ail-greu hyn yn rhywle arall.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod nhw wedi dod i'r afael a digartrefedd yn ystod y pandemig drwy sicrhau bod pobol yn llety dros dro ac yn lleihau'r niferoedd sy'n cysgu ar y stryd mewn ffordd radical sydd heb ei gyflawni o'r blaen.
Ychwanegodd llefarydd bod mwy o arian wedi ei roi tuag at ddigartrefedd a fydd yn mynd tuag at adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol fforddiadwy dros y bum mlynedd nesaf.